Galw am adfer Cynllun Gweithredu Tlodi Plant yng Nghymru
15.12.2022
Cyflwyno dadl am yr angen am gynllun tlodi.
Ar wythnos olaf busnes y flwyddyn yn y Senedd, fe alwodd Plaid Cymru ar Lywodraeth Cymru i adfer cynllun Gweithredu ar Dlodi Plant.
Mae pryderon wedi eu codi am ddiffyg targed gan sawl asiantaeth ac elusen wahanol, gan gynnwys y Comisiynydd Plant Cymru, Rocio Cifuentes, sydd wedi dweud:
“Ar hyn o bryd Cymru yw'r rhan waethaf yn y DU o ran tlodi plant ac rydyn ni hefyd yn profi'r tlodi plant gwaethaf ers nifer o ddegawdau.
“Heb dargedau mae'n anodd iawn i mi wneud fy ngwaith a dwyn llywodraeth Cymru i gyfrif a wir gweld pa mor dda maen nhw'n gwneud neu pa mor wael yr ydym yn ei wneud.
“Mae gosod targedau clir ac uchelgeisiol yn rhan o'r ateb yn unig a dwi'n galw am hyn er mwyn fy helpu i gyflawni fy swydd, ac er mwyn helpu plant a phobl ifanc i ddod allan o'r sefyllfa enbyd maen nhw'n cael eu hunain ynddi ar hyn o bryd.”
Yn siarad cyn y ddadl, dywedodd llefarydd ar Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldebau, Sioned Williams AS :
“Mae'r argyfwng costau byw presennol wedi gwaethygu lefelau tlodi plant yng Nghymru heb os, ond roedd y lefelau hynny eisoes yn gywilyddus o uchel, gan olygu bod teuluoedd Cymru'n rhy agored i sioc economaidd.
“Ynghyd â nifer o ymgyrchwyr gwrthdlodi ar draws Cymru, y Comisiynydd Plant a Swyddfa Archwilio Cymru, rydym yn glir bod angen strategaeth newydd gyda thargedau i sicrhau bod y gwaith brys sydd ei angen i ddileu staen tlodi plant yn effeithiol.
“Bydd strategaeth gyda thargedau yn gyrru'r gwaith hwnnw ar draws y llywodraeth ac yn sicrhau bod angen canolbwyntio a phenderfyniad er mwyn dod â thlodi plant i ben.”
Nid yw Comisiwn y Senedd yn gyfrifol am gynnwys a dolenni sydd wedi'u hymgorffori sy'n arwain at wefannau nad ydynt yn cael eu hariannu o adnoddau'r Comisiwn.