logo Senedd
logo Plaid Cymru

Aelod Senedd Plaid Cymru dros Brycheiniog Tawe Nedd

Hafan > 6 Senedd > Ymgyrchoedd > Hawliau Anabledd > Gryfhau hawliau plant anabl

Sioned Williams yn galw am ‘weithredu brys’ i gryfhau hawliau plant anabl

25.05.2022

plentyn yn gorwedd ar fat yn chwarae gyda menyw

Mae Aelod o’r Senedd  dros Orllewin De Cymru, Sioned Williams, wedi galw ar Brif Weinidog Cymru, Mark Drakeford i “weithredu ar unwaith” i sicrhau cydraddoldeb i blant anabl yn y sector gofal plant.

Mae hyn yn dilyn pryderon a godwyd gan etholwr nad yw cymorth digonol yn cael ei ddarparu i rieni plant anabl er mwyn talu’r costau gofal plant ychwanegol y maent yn aml yn gorfod eu talu.

Yn ystod Cwestiynau’r Prif Weinidog yr wythnos hon, cododd Sioned Williams achos etholwr y dywedwyd wrthi am dalu bron i £300 y diwrnod er mwyn i’w dau blentyn awtistig anghenion uchel allu mynychu lleoliad gofal plant yn ystod gwyliau ysgol – tair gwaith cymaint â’r gyfradd safonol y mae’r feithrinfa’n ei godi – gan y bod angen goruchwyliaeth 1-1 ar y ddau blentyn.

Dywedodd etholwr arall a gysylltodd â Sioned: “Mae'r cyfrifoldeb ar riant-ofalwyr i ddatrys y broblem. Mae pobl yn rhoi’r ffidil yn y to – maen nhw’n cymryd taw eu cyfrifoldeb nhw ydyw i ddatrys y broblem. Nhw yw’r ‘broblem’ a’u plentyn yw’r ‘broblem’. Rwyf wedi siarad â mwy a mwy o ofalwyr-rieni sy’n ceisio cadw eu gyrfaoedd, ond mae’r rhan fwyaf yn rhoi’r gorau iddi.”

Dywedodd Sioned Williams, llefarydd Plaid Cymru ar Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldebau ac Ghadeirydd Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Anableddau Dysgu:

"Mae rhieni plant anabl yn ei chael hi’n anodd cael mynediad at ofal plant addas oherwydd diffyg lleoliadau arbenigol, a chostau sy’n aml yn anfforddiadwy. Mae’n amlwg ei bod yn anodd iawn dod o hyd i’r wybodaeth am unrhyw gymorth sydd ar gael ac mae grwpiau anableddau dysgu yn dweud bod diffyg gofal plant addas a fforddiadwy yn broblem gyffredin a hirsefydlog.

Ychwanegodd Sioned Williams:

"Mae’n wahaniaethol ac yn warthus nad yw rhieni’n fwy gwybodus am unrhyw gymorth sydd ar gael iddynt, a bod disgwyl iddynt fel mater o drefn dalu mwy am ofal plant os yw eu plant yn anabl – hynny yw, os gallant ddod o hyd i darpariaeth addas yn y lle cyntaf.”

"Yn ei ateb i’m cwestiwn, dywedodd y Prif Weinidog, ‘Os oes mwy o syniadau i wneud mwy yn y dyfodol, yna rydym yn awyddus i’w clywed.’ Byddwn felly’n annog rhieni, y gymuned anabl a’r rhai sy’n gweithio yn y maes gofal plant i gysylltu â mi i rannu eu profiadau a’u barn ar yr hyn sydd angen ei wella, a byddaf yn cyfleu’r safbwyntiau hyn i Lywodraeth Cymru."

Pob newyddion