Hafan > Ein Cymuned > Space Forge
Space Forge
24.07.2026
Mor ddiddorol ymweld â Space Forge – cwmni sydd wedi’i leoli’n rhannol ar Gampws y Bae Prifysgol Abertawe, ac sydd ar flaen y gad ym maes dau ddiwydiant pwysig ar gyfer y dyfodol: lled-ddargludyddion a'r gofod.
Mae’n wych gweld cydweithio rhwng y Brifysgol a Space Forge, gweld y dechnoleg flaengar sy’n cael ei datblygu yno, a gweld y cyfleoedd i fyfyrwyr gymryd rhan mewn maes mor arloesol.



